11th October 2025 1.00pm - A Cribarth Circuit. Guided walk with Alan Bowring
11th October 2025 1.00pm - A Cribarth Circuit. Guided walk with Alan Bowring
11th October 2025 1.00pm at Craig y nos Country Park. Walk Time 3.5 hours
Bydd Jeff Alexander, arbenigwr gwadd, yn ymuno â’r daearegydd profiadol lleol, Alan Bowring, er mwyn crwydro’r bryn anhygoel hwn sy’n codi uwchben Craig-y-nos; dyma gribyn mwyaf creigiog Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Ffawt a phlyg, iâ a diwydiant, mae’r cyfan oll wedi chwarae rhan yn ffurfiant y bryn hwn.
Byddwch yn dyst i filltiroedd o hen dramffyrdd wrth iddynt weu drwy’r tirlun unigryw hwn sy’n llawn cwympdyllau a hen chwarelu – peidiwch â cholli’r daith gerdded hon!
Mae’r wâc yn 5.2km/3.2 milltir o hyd ac mae’n cynnwys esgyniad o 240m. Mae’r daith yn cychwyn ac yn gorffen ym Mharc Gwledig Craig y Nos. Byddwn yn cyfarfod ar y Geoteras o flaen caffi Dwy Afon am 12:45 (what3words ///lifetimes.perfectly.spend). Bydd y wâc yn cychwyn yn brydlon am 13:00.
Ystyriwch y ddarlith yn y bore yn rhaghanes i’r digwyddiad hwn.
Sicrhewch eich bod yn gwisgo dillad ac esgidiau addas fydd yn eich gwarchod rhag yr elfennau. Mae’n bosib y bydd y llwybr yn cynnwys tir anwastad. Mae’n rhaid bod plant dan un ar bymtheg mlwydd oed yn dod gydag oedolyn. Mae croeso i gŵn sy’n gallu ymddwyn yn dda ond mae’n rhaid eu cadw ar dennyn.
Petai tywydd garw, ni fydd y daith gerdded yn mynd yn ei blaen a byddem yn rhoi rhybudd priodol.
Couldn't load pickup availability
